Sut i gysylltu?
Gallwch gysylltu drwy ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol neu drwy e-bostio Rhodri@eicharwain.co.uk.
Beth sydd angen i Arwain gwybod?
Bydd angen gwybod manylion eich achlysur neu daith e.e. Maint y grŵp, lleoliad posib, dyddiadau ayb.
Beth yw cost dyfynbris gan Arwain?
Gallwch gael dyfynbris gan Arwain am ddim!
Pryd mae angen i mi dalu’r blaendaliadau?
Yn ddibynnol ar beth ydych yn archebu, er fel arfer i sicrhau’r achlysur a’r dyddiadau mae angen blaendal cyn gynted ag sy’n bosib fel y gellir cadarnhau unrhyw drefniadau dros dro sydd wedi’u gwneud ar eich cyfer. Byddai’n syniad da i chi gadarnhau’r daith gyda ni, ar ôl i chi gasglu’r blaendal.
Sut dwi’n gwneud taliadau?
Bydd Arwain yn anfon anfoneb atoch gyda’r manylion ar sut i wneud taliad. Ni fydd archeb yn cael eu gwneud tan fod taliad wedi’ wneud.
Ydy Arwain yn sortio yswiriant teithio?
Nid yw Arwain yn sortio yswiriant teithio. Felly, byddem yn argymell bod gennych chi yswiriant teithio priodol cyn i chi deithio; gan gynnwys costau meddygol, damweiniau personol a dychwelyd adref. Byddai cael yswiriant sy’n cynnwys yswiriant ar gyfer bagiau, atebolrwydd personol a chanslo hefyd yn cael ei argymell.
Byddai prynu’ch yswiriant teithio wrth i chi archebu’ch taith gydag Arwain yn dda o beth, gan y bydd yr yswiriant ar gyfer canslo yn dechrau ar ddyddiad cychwyn y polisi. Byddai hyn felly wedi’ch yswirio pe byddai rhaid i chi ganslo’ch taith am amryw o resymau.