Amdanom Ni
Cwmni a gynlluniwyd i gefnogi unigolion, teuluoedd, grwpiau neu fusnesau i gynllunio a threfnu achlysuron arbennig yw Arwain.
Gall yr achlysuron arbennig yma amrywio o fod yn benwythnosau stag a phartïon Plu, teithiau addysgiadol, teithiau clybiau chwaraeon, gweithgareddau adeiladu tîm a phenwythnosau i ffwrdd yn dathlu pen-blwydd arbennig.
Rydym yn hynod falch o fod yn gwmni dwyieithog, yn gweithio yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Prif waith Arwain yw sicrhau adeiladu amserlen teithio unigryw i chi, gan sicrhau bod eich achlysur arbennig yn un gofiadwy iawn.
Y wyneb tu ôl i Arwain - Rhodri Lewis
Yn wreiddiol o Efailwen ger Crymych ond bellach yn byw yng Nghaerfyrddin.
Dros y 10 mlynedd diwethaf rwyf wedi cael profiadau amrywiol sy’n cynnwys cynllunio a threfnu llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy’r byd gwaith a hefyd mewn rolau gwirfoddol gyda Chlybiau Chwaraeon Criced, Rygbi a Phêl-droed yn ogystal â’r Clybiau Ffermwyr Ifanc a’r Urdd.
Penderfynes ddechrau Arwain yn dilyn y profiad o fod ar raglen hyfforddiant mentro Llwyddo’n Lleol yn ystod mis Chwefror 2024. Cefais fy newis i fod yn un o 12 unigolyn i fod ar y rhaglen – rhaglen oedd yn cynnwys derbyn sesiynau wythnosol gydag arbenigwyr busnes, gan ganolbwyntio ar agweddau megis marchnata, rheoli cyllid, a denu cwsmeriaid.
Mwy o wybodaeth isod:
Elfen Mentro Llwyddo’n Lleol Chwefror 2024
Byddaf wrth fy modd yn eich helpu i gynllunio a threfnu eich achlysur arbennig!
