
Rhodri Lewis dw i, yn wreiddiol o Efailwen ger Crymych ond bellach yn byw yng Nghaerfyrddin.
Dros y 10 mlynedd diwethaf rwyf wedi cael profiadau amrywiol sy’n cynnwys cynllunio a threfnu llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy’r byd gwaith a hefyd mewn rolau gwirfoddol gyda Chlybiau Chwaraeon Criced, Rygbi a Phêl-droed yn ogystal â’r Clybiau Ffermwyr Ifanc a’r Urdd.
Rhaglen Hyfforddiant Llwyddo’n Lleol

Rhagfyr 2023 – fe wnes weld yr hysbyseb yma ar y cyfryngau cymdeithasol. Cyfle i ymuno ar raglen Hyfforddiant busnes, sesiynau gydag arbenigwyr busnes dros gyfnod o 8 wythnos, tra hefyd yn ennill £1000 am fod ar yr Hyfforddiant!
Doeddwn ni erioed wedi meddwl am sefydlu busnes, neu redeg busnes fy hun; Tan y blynyddoedd diwethaf!
Rwyf wedi cyrraedd yr oedran lle mae nifer o’m ffrindiau yn priodi neu wedi priodi, yn ogystal â fy hun; ac yng nghanol hyn yr holl benwythnosau Stag! Un peth wnaeth fy nharo oedd bod llawer o drefnu yn mynd i mewn i drefnu penwythnos Stag, ac yn medru fod yn dasg enfawr i’r unigolyn sydd fel arfer yn trefnu (Y Best man fel arfer!).
Er bod nifer o fusnesau i gael sy’n trefnu penwythnosau Stag neu Bartïon Plu – prin yw’r rhain yng Nghymru, a prinnach byth yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg).
Gyda diddordeb mewn cynllunio a threfnu nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ta beth; meddyliais am ddatblygu cwmni byddai’n medru darparu gwasanaeth cynllunio a threfnu achlysuron arbennig megis penwythnosau Stag a phartïon Plu yn ogystal â theithiau Chwaraeon neu benwythnos i ffwrdd a mwy.
Pa ffordd well ond ymgeisio am le ar raglen Hyfforddiant Llwyddo’n Lleol? Cyfle i wrando ar arbenigwyr yn y maes busnes, a dysgu wrth fusnesau arall.

Ionawr 2024 – Cefais gwybod fy mod wedi bod yn llwyddiannus o ymuno a’r rhaglen Hyfforddiant Llwyddo’n Lleol gyda’r criw hyfryd yma. 11 unigolyn arall – rhai wedi dechrau busnes, a rhai yn yr un sefyllfa a fi; yn meddwl dechrau busnes. Cafwyd amryw o sesiynau wythnosol gydag arbenigwyr busnes, gan ganolbwyntio ar agweddau megis marchnata, rheoli cyllid, a denu cwsmeriaid.
Mwy o wybodaeth yma: Elfen Mentro Llwyddo’n Lleol Chwefror 2024
Arwain
Yn dilyn y profiad o fod yn rhan o raglen Hyfforddiant Llwyddo’n Lleol; penderfynais ddechrau’r busnes a’i enwi yn Arwain. Arwain y chynllunio, ac Arwain y trefnu.
Dyma ni heddiw, Arwain – yma i gynllunio a threfnu eich achlysur arbennig.
Gwasanaethau
Gallwn gynllunio a threfnu:
· Penwythnosau Stag neu Bartion Plu
· Teithiau Chwaraeon
· Teithiau Preswyl
· Penwythnosau i ffwrdd
· Digwyddiad Corfforaethol
· Diwrnod Staff / Gweithgareddau Adeiladu Tîm
· Gweithgareddau codi arian
Cynllunio a threfnu eich Llety, teithio, gweithgareddau, bwyd a diod a mwy…
Starting Arwain

I am Rhodri Lewis, Originally from Efailwen near Crymych but now living in Carmarthen.
Over the last 10 years I have had various experiences which include planning and organizing many events and activities throughout the world of work and also in voluntary roles with Sports Clubs such as Cricket, Rugby and Football as well as the Young Farmers Clubs and the Urdd.
Llwyddo’n Lleol Programme

December 2023 – I saw this advert on social media. An opportunity to join a business Training programme, weekly sessions with business experts over a period of 8 weeks, while also receiving £1000!
I had never thought about setting up a business, or running a business myself; Until the last few years!
I have reached the age where many of my friends are getting married or have married, as well as myself; and in the middle of all this – the Stag weekends! One thing struck me; the amount of organization that goes into organizing a Stag weekend, which can be a huge task for the person who usually organizes (usually The Best man!).
Although there are a number of businesses that organize Stag weekends or hen Parties – these are rare in Wales, and even rarer being bilingual (Welsh and English).
With an interest in planning and organizing a number of events and activities anyway; I had a thought about developing a company that would be able to plan & organize special occasions such as Stag weekends and hen parties as well as Sports trips or weekends away & more.
What better way but to apply for a place on the Training programme? An opportunity to listen to experts in the business field, and learn from other businesses.

January 2024 – I was lucky to be successful in joining the Llwyddo’n Lleol Training program with this wonderful group. 11 other individuals – some had started a business, and some were in the same situation as me; thinking of starting a business. The weekly sessions with business experts, focused on topics such as marketing, financial management, and attracting customers.
More information below: Mentro Initiative Business february 2024
Arwain
Following the experience of being a part of the programme; I decided to start the business, naming it as Arwain (Lead in Welsh). Lead the planning, and Lead the organising.
Here we are today, Arwain – here to plan & organize your special occasion.
Services
We can help plan & organise:
· Stag & Hen Parties
· Sports Club Trips
· Residential Trips
· Weekends Away
· Coorporate Events
· Staff Away Days / Team Building Activities
· Fund Raising Event
Plan & organise your accommodation, Travel, Activities, Food & drink and more…